Cefnogi Parc Bute

Mae gofalu am gasgliadau o goed a phlanhigion arbennig mewn gardd hanesyddol yn gyfrifoldeb mawr. Mae’r arian a godwn yn hanfodol i gynnal Parc Bute ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Os hoffech chi ein helpu i ofalu am Barc Bute trwy roi rhodd, bydd eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n fawr a’i ddefnyddio mewn modd call. I gael gwybodaeth am roi mainc neu goeden yn rhodd mewn parciau eraill yng Nghaerdydd ewch i Awyr Agored Caerdydd.
A ydych yn frwdfrydig am Barc Bute? Ymunwch a Gyfeillion Parc Bute

Mainc Goffa

Mae seddi rhodd yn ffordd berffaith o ddathlu anwylyd neu goffáu carreg filltir a byddai hyd yn oed yn anrheg briodas wych. Gallai hyn gynnwys plac i gofnodi eich hoff amserau. Mae'r Cynllun Seddi Rhodd ar gau ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cynnig rhestr newydd o feinciau ym mis Awst 2024. Arddull: Mainc Fictoraidd ei dyluniad [llun] Caiff pob mainc ei chynnig ar sail y cyntaf i'r felin ar ôl derbyn ffurflen a thaliad. Mae'r costau'n amrywio yn dibynnu ar y gwaith paratoi sydd ei angen ym mhob lleoliad. Mae'r dogfennau canlynol yn cynnwys yr holl wybodaeth a ffurflen gais: Neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Coed

Mae rhoi coeden yn ffordd hyfryd o gadw'ch atgofion yn fyw neu i gofio digwyddiad mewn lleoliad naturiol syfrdanol. Gall teulu a ffrindiau fwynhau'r goeden yn rheolaidd a'i gwerthfawrogi gan y miloedd o ymwelwyr parc bob blwyddyn. Coffáu rhywun annwyl neu ddigwyddiad arbennig trwy gysegru coeden yn yr arboretwm. Mae gennym goed ar gael ar hyn o bryd, am ffurflen archebu a phrisiau, cysylltwch â ni.
Mrs Morfudd Meredith -Lord Leiutenant of South Glamorgan

Treftadaeth fyw

Bu cyfraniadau gan ddau unigolyn a oedd yn dwlu ar Barc Bute yn helpu i sefydlu cychod gwenyn a chynorthwyo gwenwynwyr lleol, Nature’s Little Helpers, i fentora cyflogeion brwd y parc. Gellir prynu mêl Parc Bute yn uniongyrchol o Ganolfan Addysg Parc Bute Rhagor am wenyn Parc Bute.
Some of Bute Parks Honey on Sale