Siop Blanhigion
Dewch â chalon werdd y ddinas i mewn i’ch cartref a’ch gardd.
Mae llawer o’r planhigion yn cael eu tyfu yn y blanhigfa naill ai o hadau neu o doriadau wedi’u cymryd o barciau’r ddinas. Mae ychydig o’r stoc yn dod o gyflenwyr ag enw da ac yn cael eu meithrin yma.
Rydym yn cyflenwi:
- Planhigion gwely blodau ac awyr agored eraill
- Basgedi crog a chynwysyddion wedi’u llenwi
- Planhigion ar gyfer basgedi
- Llwyni a blodau lluosflwydd
- Planhigion bwytadwy
- Perlysiau
- Bylbiau
Bydd ein staff gwybodus yn hapus i gynnig cyngor arbenigol a’ch helpu i ddewis y planhigyn perffaith.
Croesewir ymholiadau masnach cysylltwch â ni
Prisiau
Mae ein prisiau’n gystadleuol iawn gan nad oes unrhyw gostau cludo a chaiff y siop blanhigion ei chynnal gan dîm o wirfoddolwyr.
Caiff yr elw o werthu’r planhigion ei fuddsoddi yn ôl i’r Blanhigfa ei hun. Mae 10% o’r elw a wneir trwy werthu poinsettias adeg y Nadolig yn cael ei roi i elusen yr Arglwydd Faer bob blwyddyn.
Ein lleoliad
Mae Planhigfeydd Parc Bute yng nghanol Parc Bute gerllaw’r Ganolfan ymwelwyr a Chaffi’r Ardd Gudd. Taith gerdded fer ydym o fynedfa Pont y Mileniwm yn y gorllewin, a mynedfa Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru/Pont Fishers yn y dwyrain.
Does dim mynediad i gerbydau er mwyn casglu eich planhigion o’r siop. Siaradwch ag aelod o’n staff os hoffech chi gael help gydag archebion mwy sylweddol.
Blog Siop Blanhigion
Tystysgrifau Rhodd
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n dwlu ar blanhigion? Beth am roi anrheg ychydig yn wahanol iddo/iddi? Yr anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
Mae Tystysgrifau Rhodd bellach ar gael ar gyfer Planhigfeydd Parc Bute.
Gwirfoddolwch yn y blanhigfa
Rhagor o wybodaeth..Y Blanhigfa
Datblygwyd Planhigfeydd Parc Bute yn wreiddiol fel gardd gegin a lle storfa cynnyrch i fwydo’r teulu Bute a’u staff.
Mae’r planhigfeydd bellach yn cynhyrchu ac yn dosbarthu miloedd lu o blanhigion ar gyfer y ddinas.
Toreth o liwiau a gweithgarwch ar adegau tyfu brig
Mae’r blanhigfa weithredol ar gau i’r cyhoedd ond yn aml rydym yn cynnal teithiau tywys fel y gallwch weld yr hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni.